P-04-417:
Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed
Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
Geiriad y
ddeiseb
Darn
o’r morlin rhwng Gwaith Dur Port Talbot a Thraeth Sgêr
yw Traeth Morfa, gerllaw Gwarchodfa Natur Cynffig . Dim ond
ar droed neu ar feic y mae’n bosibl cael mynediad i’r
traeth, felly mae wedi dod yn fan gwerthfawr o heddwch a thawelwch.
Yn 2011 ffurfiwyd y grŵp
cymunedol ,
“Save
Morfa Beach (Friends of Morfa)
â€
mewn ymateb i fygythiad drwy Waith Dur TATA a oedd yn ceisio atal
mynediad i’r
traeth. Mae hyn yn cynnwys cau dau lwybr troed cyhoeddus o
arwyddocâd
hanesyddol sy’n
cael llawer o ddefnydd ac sy’n arwain i’r traeth:
Llwybr troed 92 o Longland’s Lane ym Margam a
Llwybr Troed 93 o Warchodfa Natur Cynffig. Mae’r DEISEBWYR yn
cefnogi ymgyrch sefydliad Save Morfa Beach (Friends of Morfa) i
ddiogelu’r hawliau tramwy ar hyd llwybrau troed 92 a 93 a
chadw’r mynediad i Draeth Morfa. Rydym yn gofyn i
Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot gynnal a
chadw’r holl hawliau tramwy ar Margam Burrows, ac ymgysylltu
â Tata Steel er mwyn sicrhau bod mynediad cyhoeddus i’r
traeth yn parhau.
Gwybodaeth ategol: Pa un ai a yw hawliau tramwy’n
croesi tir preifat neu dir cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot a Chynulliad Cymru sy’n gyfrifol yn
y pen draw am sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod, eu bod ar gael
a’u bod yn addas i’r diben. Rydym felly’n
lobïo, ond fel sefydliad nid ydym yn wleidyddol . Cafodd
Grŵp
ei greu ar Facebook (www.facebook.com/groups/SaveMorfaBeach/)
fel proffil cyhoeddus y sefydliad.
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
2
Hydref 2012
Prif
ddeisebydd: Save
Morfa Beach (Friends of Morfa)
Nifer y
llofnodion:1191